Y cefndir

Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i dlodi tanwydd, mae Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn casglu barn pobl ledled Cymru.

Methodoleg

Trefnodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion gyfres o grwpiau ffocws gyda phobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd, neu sydd mewn perygl o hynny, a staff sy’n cynorthwyo unigolion â phroblemau ynni, rhwng 3 Rhagfyr 2019 a 23 Ionawr 2020.

Trefnwyd 4 sesiwn ledled Cymru yn cynnwys 25o ddinasyddion o dri o ranbarthau’r Cynulliad. Trefnwyd sesiynau ym Mhowys (Trefyclo), Abertawe, Sir Ddinbych (Y Rhyl) aGwynedd (Bangor).  Roedd y cyfranogwyr yn y sesiynau yn dod o ardaloedd yr awdurdodau lleol uchod yn ogystal ag ardaloedd awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

Cysylltwyd â nifer o sefydliadau a grwpiau perthnasol er mwyn dod o hyd i gyfranogwyr. Roedd y rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Age Cymru, Sefydliad Bevan, Cyngor ar Bopeth, Anabledd Cymru, Tai Pawb, Ymddiriedolaeth Trussell a Phrifysgolion yng Nghymru.

Trefn

Trafodwyd y pynciau canlynol fel rhan o'r sesiynau: -

§  Profiad o dlodi tanwydd;

§  Cymorth i'r rheini sy’n byw mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o fyw mewn tlodi tanwydd;

§  Achosion tlodi tanwydd;

§  Demograffeg pobl mewn tlodi tanwydd;

§  Effaith tlodi tanwydd ar iechyd a lles;

§  Tlodi tanwydd yn ardaloedd gwledig Cymru

§  Addysg;

§  Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru;

§  Tai

Crynodeb o'r themâu allweddol

Gwresogi neu fwyta

Roedd yr heriau dyddiol o fyw mewn tlodi tanwydd, neu o fod mewn perygl o fyw mewn tlodi tanwydd, yn thema a oedd yn codi ei phen dro ar ôl tro yn nhrafodaethau’r holl grwpiau ffocws. Roedd llawer yn disgrifio’r dewis ymwybodol o “wresogi neu fwyta” fel cyfyng­-gyngor mynych i lawer.  

Soniodd un cyfranogwr sy'n cynghori cleientiaid ar faterion ynni ei fod wedi bod yn rhoi cyngor i unigolyn a oedd yn derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) a Budd-dal Tai. Mae tua 30% o incwm yr unigolyn yn cael ei wario ar filiau ynni.

“I gleientiaid o’r fath, yn aml dydyn nhw byth yn gweld ffordd allan o’r sefyllfa. Mae ganddo rewgell 30 oed ac oergell 25 oed heb sêl. Yn yr haf, mae'n storio ei inswlin mewn bwced o ddŵr oer ar y llawr. ”

Cyfranogwr grŵp ffocws, Sir Benfro

Esboniodd cyfranogwyr yn y grwpiau ffocws fod pwysau sylweddol ar unigolion sy'n derbyn budd-daliadau ac er bod cytundeb bod gan rai broblemau yn cyllidebu, mae’n feirniadaeth sy'n aml yn cael ei thargedu’n annheg at y mwyafrif sydd mewn tlodi tanwydd.

“Os oes unrhyw un ohonyn nhw ar y gyfradd sylfaenol, does ganddyn nhw ddim yr incwm ychwanegol fel y gallan nhw gyllidebu.”

Cyfranogwr grŵp ffocws, Sir Ddinbych

“Mae gan bobl fwy o filiau y dyddiau hyn nag a fu’n draddodiadol. Rydyn ni’n byw mewn cyfnod digidol yn ddiofyn. Os oes gan bobl ddyled mewn meysydd eraill, nid yw taflen gyllidebu ein hawdurdod lleol yn cynnwys 'cyfathrebu' fel blaenoriaeth ... ac eto, gofynnir yn gynyddol i bobl wneud y rhan fwyaf o bethau ar-lein. Er enghraifft, mae’r bargeinion gorau ar gyfer biliau tanwydd i’w cael ar-lein. "

Cyfranogwr grŵp ffocws, Ynys Môn

Esboniodd rhai cyfranogwyr mai’r rhai sydd o bosib yn teimlo pwysau tlodi tanwydd fwyaf ymysg y rhai sy’n hawlio budd-daliadau yw’r hawlwyr budd-dal sengl heb unrhyw anableddau na chydrannau'n daladwy, a hawlwyr Credyd Cynhwysol (yn hawlwyr sengl ac yn deuluoedd).

Esboniodd un cyfranogwr yn Nhrefyclo, a oedd yn gynghorydd lleol, ei bod hi’n credu bod nifer o bobl yn Nhrefyclo yn dewis rhwng tanwydd a bwyd yn rheolaidd.

“Mae yna lawer yn yr ardal hon. Mae gen i bobl sy’n crio ar y ffôn yn eithaf rheolaidd. Tadau sy'n teimlo eu bod yn siomi eu teuluoedd oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw wneud y dewis yna. Dydy hwn ddim yn ddewis y dylen nhw orfod ei wneud. ”

Cyfranogwr grŵp ffocws, Powys

Trafododd rhai cyfranogwyr y cynnydd yn nifer y bobl sy’n ymweld â banciau bwyd, a demograffeg newidiol y bobl hynny, yn rhannol oherwydd yr heriau ynghlwm wrth dalu biliau tanwydd. Roedd y mwyafrif yn cytuno y gallai rhai pobl fod wedi gallu dibynnu ar gymorth elusennol yn y gorffennol, ond gan fod y trydydd sector yn wynebu toriadau cynyddol, nid yw hyn yn wir bellach.

“Weithiau mae’n rhaid i ni feddwl yn ofalus am ba fwyd i’w roi, oherwydd ni all rhai pobl fforddio’r tanwydd i goginio. Efallai mai dim ond tegell, tostiwr ac un hob coginio sydd gan rai. Rydyn ni'n aml yn rhoi bwyd y gallan nhw ei gynhesu'n gyflym.

Rydyn ni'n helpu mwy a mwy o bobl o hyd. Erbyn hyn mae’r rhaniad tua 50/50 o ran teuluoedd sydd mewn gwaith ac allan o waith. ”

Cyfranogwr grŵp ffocws, Powys

Y Gymru Wledig

Ymhob un o’r grwpiau ffocws, cafwyd trafodaeth hir am y problemau unigryw sy’n wynebu pobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd, neu’r rhai sydd mewn perygl o hynny, yn ardaloedd gwledig Cymru.

Disgrifiwyd cymhlethdod yr her o addasu hen dai cerrig, o fyw mewn ardal nad yw ar y grid ac o’r herwydd, yr her o ymdopi â rheoli biliau ynni cymharol uchel, a hynny’n aml ar incwm isel, fel problem wanychol i unigolion lawer.

Roedd gan rai o’r cyfranogwyr brofiad o ddarparu cyngor ar ynni i bobl sy'n ddibynnol ar olew, gwresogyddion stôr neu nwy petrolewm hylifedig (LPG o hyn ymlaen), a chafwyd trafodaeth am ddemograffeg newidiol y rhai sy’n byw mewn tlodi tanwydd. Roeddent yn egluro bod pobl yn aml yn meddwl mai pobl hŷn neu rai sy’n derbyn budd-daliadau sy’n profi tlodi tanwydd, ond mae'r grŵp o bobl sy’n “dlawd mewn gwaith” yn profi tlodi tanwydd fwyfwy.

“Yn aml gall biliau tanwydd fod yn ddwbl yr hyn y mae Ofgem yn amcangyfrif yw’r cyfartaledd blynyddol ar gyfer y rhai sy’n gwresogi eu cartrefi â nwy. Felly mae'n cynnwys teuluoedd na fyddech chi o reidrwydd wedi meddwl y bydden nhw’n profi tlodi tanwydd, nac mewn perygl o hynny - pobl sy'n ennill rhwng £23,000 a £25,000 ac sy'n gwario rhwng £2,000 - £3,000 ar eu biliau tanwydd. ”

Cyfranogwr grŵp ffocws, Ceredigion

Esboniodd un cyfranogwr yr heriau sy'n wynebu pobl sy'n byw yn Ynys Môn, gan fod cyfran sylweddol ohonynt yn byw mewn ardal nad yw ar y grid.

“Roedd gen i gleient oedd â dyled o £40 i brif gyflenwr LPG. Roeddent yn bygwth ei datgysylltu, a fyddai wedi golygu y byddai wedi gorfod talu £300 i ailgysylltu. Roedd hi'n ddynes fregus a oedd wedi gorfod ffoi rhag trais domestig ac a oedd i bob pwrpas yn byw’n guddiedig. Sut gellir mynnu bod cwmni fel hwn yn atebol? Pe bai'n gyflenwr ynni traddodiadol, gallech gysylltu â'r Ombwdsmon Ynni. "

Cyfranogwr grŵp ffocws, Ynys Môn

Awgrymodd rhai o’r cyfranogwyr mai un ffordd o leddfu’r pwysau ar lawer fyddai trwy ryw fath o fenter grantiau wedi’i dylunio’n benodol i gefnogi pobl sy'n byw yn ardaloedd gwledig Cymru ac sy'n cael trafferth talu eu biliau ynni.

“Mae rhai o fy nghleientiaid i’n defnyddio olew ac yn methu ei fforddio, ond does ganddyn nhw ddim llawer o ddewis. Mae un fenyw rwy'n rhoi cyngor iddi yn byw yn ystafell fyw ei thŷ gyda thân nwy un bar. Mae'n rhaid iddi ymbalfalu i gael gafael ar boteli nwy gan ffrindiau sy’n gweithio yn y maes adeiladu.

Os na all pobl fforddio llenwi eu tanc olew, fe fyddan nhw’n mynd i'r orsaf betrol ac yn talu 75c am litr o gerosin i gynhesu eu cartref. "

Cyfranogwr grŵp ffocws, Sir Benfro

Bu’r cyfranogwyr yn Nhrefyclo hefyd yn trafod tlodi yn fwy cyffredinol, a'i effaith ar symudedd cymdeithasol.

“Os ydych chi eisiau swydd, mae'n rhaid i chi redeg car. Rhowch gost hynny ar ben talu am drydan, gwres a bwyd - mae bron yn amhosibl i lawer. Dychmygwch fod yn fam sengl yn byw mewn ardal wledig heb fawr o gefnogaeth, os o gwbl, yn ceisio jyglo'r ymrwymiadau ariannol hynny. "

Cyfranogwr grŵp ffocws, Powys

Yn ôl y cyfranogwyr, mae rhai o'r heriau eraill sy'n wynebu pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn cynnwys prisiau amrywiol, cymorth o safon annigonol i bobl fregus a chwsmeriaid yn gorfod gwario swm sylweddol i lenwi tanciau neu’n archebu lleiafswm.

Stoc tai

Roedd yr holl gyfranogwyr yn cytuno ei bod yn anodd cael gafael ar dai o ansawdd da, yn enwedig i'r rheini ar incwm isel.

“Mae pobl ar incwm isel yn gyfyngedig i lety â rhent rhatach, ac yn aml nid yw’r rhain yn effeithlon o ran ynni ... ac mae hyd yn oed y rhai mewn eiddo sy’n perthyn i gymdeithasau tai yn cael problemau."

Cyfranogwr grŵp ffocws, Ynys Môn

 “Os oes tai newydd yn cael eu hadeiladu ar ystadau cymdeithasau tai sy’n bodoli’n barod a bod y tai newydd yn gallu manteisio ar yr holl fuddion effeithlonrwydd ynni, ond nad yw cartrefi sy’n bodoli’n barod yn cael eu huwchraddio, fe all hyn achosi problemau - yn enwedig o ran cydlyniant cymdeithasol.”

Cyfranogwr grŵp ffocws, Ceredigion

Er bod safon eiddo myfyrwyr wedi gwella, esboniodd y cyfranogwyr a oedd yn fyfyrwyr nad yw'r mwyafrif yn effeithlon o ran ynni.

Mesuryddion deallus

Esboniodd rhai o’r bobl a oedd yn cymryd rhan fod mesuryddion deallus yn ddefnyddiol wrth fonitro defnydd ac roeddent wedi’u calonogi’n benodol ar ôl gweld strategaeth Cwsmeriaid Bregus newydd Ofgem yn ddiweddar. Fodd bynnag, cododd rhai o’r cyfranogwyr bryderon.

“… Fodd bynnag, rydw i’n eithaf beirniadol o’r ffordd y cafodd cenhedlaeth gyntaf y mesuryddion deallus eu cyflwyno gan nad oeddent yn gallu gweithredu’n llawn os oedd y defnyddiwr yn newid cyflenwr. Mae hyn yn creu ei broblemau ei hun, gyda chwsmeriaid yn newid cyflenwr a ddim yn cael gwybod am y broblem i’r ffordd roedd yn gweithio.

Rwyf wedi delio â nifer o achosion o gwsmeriaid yn credu bod eu mesuryddion yn gweithredu fel rhai deallus a bod eu defnydd yn cael ei fonitro’n gywir, ac yna’n cael gwybod gan y cyflenwr newydd mai amcangyfrif o’u defnydd ydoedd, gan arwain at filiau dal i fyny yn aml yn achosi i gleientiaid fynd i ddyled.”

Cyfranogwr grŵp ffocws, Rhondda Cynon Taf

 

Iechyd a lles

Roedd yr holl gyfranogwyr yn cytuno y gall byw mewn tlodi tanwydd, neu fod mewn perygl ohono, gael effaith sylweddol ar iechyd a lles unigolyn.

 “Mae pryder ac iselder yn dod yn sgil byw mewn tlodi tanwydd. Gallwn wneud gwaith gwych gyda phobl i helpu i hybu eu hincwm, ond maen nhw’n aml yn bobl hynod fregus a fydd yn ei chael hi'n anodd beth bynnag.”

Cyfranogwr grŵp ffocws, Sir Benfro

 “Dychmygwch fyw yn y fath yna o dlodi. Mae cymaint o bobl yn dioddef o iselder a gorbryder. Nid yw’n anghyffredin i bobl ddod ataf am gyngor ynghylch eu dyledion a dweud nad ydyn nhw eisiau bod yma bellach. ”

Cyfranogwr grŵp ffocws, Ceredigion

Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru

“Mae delio â Nyth yn iawn, oherwydd ar ôl i chi gyfrifo faint fydd gan y cleient hawl iddo, mae'n wych achos bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w fywyd. Mae'r meini prawf cymhwysedd yn wirioneddol hael, yn enwedig nawr bod y meini prawf iechyd wedi'u hychwanegu. "

Cyfranogwr grŵp ffocws, Ynys Môn

Roedd barn pobl am Raglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru a Nyth yn benodol yn gadarnhaol ar y cyfan.

Fodd bynnag, roedd cyfranogwyr grwpiau ffocws a oedd â phrofiad o gynghori cleientiaid ar faterion ynni a gwneud ceisiadau Nyth ar eu rhan yn esbonio bod lle i wella. Gwnaed y pwyntiau canlynol:

§  Ffenestri: byddai'n ddefnyddiol pe bai ffenestri'n cael eu cynnwys fel rhan o gynllun Nyth. Mae pobl yn colli gwres os yw eu ffenestri yn rhai gwydr sengl neu os yw eu fframiau ffenestri wedi pydru.

§  Cysondeb: Cododd un cyfranogwr bryderon ynghylch cysondeb wrth gymeradwyo ceisiadau Nyth. Rhoddodd gyngor i un teulu gyda dau o blant a oedd yn derbyn cyfradd uwch y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a'r Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) ac a oedd yn rhentu'n breifat.  Roedd y teulu'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer boeler newydd yn eu cartref a derbyniwyd eu cais Nyth i ddechrau. Fodd bynnag, darganfu Nyth fod y landlord yn berchen ar sawl eiddo a'i fod wedi gwneud ceisiadau niferus i Nyth. Oherwydd hynny, gwrthododd Nyth gais y teulu. Dim ond pan ymyrrodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, y cafodd y mater ei ddatrys.

§  Cynnydd: Esboniodd y cyfranogwyr a oedd â phrofiad o gynghori pobl ar faterion ynni y byddai’n ddefnyddiol gallu olrhain cynnydd ceisiadau Nyth.

§  Cyfeiriad: Cododd rhai cyfranogwyr faterion yn ymwneud ag unigolion sy'n hunangyflogedig ac sy'n defnyddio eu cyfeiriad cartref fel eu cyfeiriad busnes. Gall hyn beri anawsterau os bydd Nyth yn cynnal chwiliadau.

Esboniodd un cyfranogwr ei fod wedi cynghori cleient yn ei phumdegau sy'n gweithio'n rhan-amser, yn bennaf oherwydd problemau iechyd. Mae hi'n byw mewn lleoliad nad yw ar y grid ac yn defnyddio olew i gynhesu ei heiddo. Roedd ganddi system gwres canolog olew newydd sbon a oedd wedi ei osod gan Nyth ddwy flynedd yn ôl ond ni allai fforddio talu am yr olew. Mae'r tanc wedi bod yn wag ers ei osod.

“Wrth gwrs, gallwch chi roi system wresogi newydd i mewn, ond os na allan nhw fforddio ei chynnal, beth yw'r pwynt? Mae angen i bethau fod yn gynaliadwy. Mae'n paratoi pobl i fethu. ”

Cyfranogwr grŵp ffocws, Sir Benfro

“Nid gosod boeler newydd yw’r ateb bob tro, yn enwedig lle mae angen mynd i’r afael ag adeiladwaith yr adeilad.”

Cyfranogwr grŵp ffocws, Rhondda Cynon Taf

Roedd lefel ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r cynllun yn gyffredinol isel ac nid oedd rhai yn ymwybodol ohono o gwbl.

Yr Ombwdsmon Ynni

“Mae pwerau’r Ombwdsmon Ynni yn eithaf cyflym… ond hyd yn oed os ydyn nhw’n barnu o’ch plaid, mae’r dyfarniad yn eithaf bach. Maen nhw’n aml yn cyfeirio atynt fel symiau 'ewyllys da'. ”

Cyfranogwr grŵp ffocws, Sir Benfro

Esboniodd un cyfranogwr ei fod wedi dod ar draws rhai sefyllfaoedd lle’r oedd sefyllfa cleientiaid ynni y tu allan i gylch gwaith yr Ombwdsmon Ynni. Yr enghraifft gyntaf oedd lle'r oedd y cyflenwr ynni yn cael ei ddiddymu ac roedd gan y cleient ddyled i'r cyflenwr ynni. Yn y sefyllfa hon, nid yw'r cleient yn cael ei amddiffyn gan reolau bilio ac o'r herwydd, mae’n rhaid delio'n uniongyrchol â'r diddymwr ac nid oes modd troi at yr Ombwdsmon Ynni. Yr ail enghraifft yw lle mae gwaith wedi’i wneud yn eiddo’r cleient drwy gynllun Nyth ond lle mae problem wedi codi gyda’r gwaith gosod. Gall fod yn anodd datrys y mater. Gofynnodd un cyfranogwr a all yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus dderbyn cwynion am Nyth.

Addysg

Roedd yr holl gyfranogwyr yn cytuno bod lefel y ddealltwriaeth o filiau a hyder wrth newid tariffau neu gyflenwyr ynni yn gyffredinol isel.

 “Mae llawer o bobl yn hunan-ddatgysylltu. Felly maen nhw'n gwneud dewis ymwybodol rhwng gwresogi a bwyta ond dydyn nhw ddim yn sylweddoli bod yn rhaid parhau i dalu tâl sefydlog. ”

Cyfranogwr grŵp ffocws, Sir Benfro

“Mae'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o sut mae marchnadoedd ynni'n gweithio nesaf peth at ddim. Fe wnes i gynorthwyo un gŵr i arbed £825 y flwyddyn ar ei filiau tanwydd. Roedd ar fesurydd rhagdalu a newidiodd i dalu drwy ddebyd uniongyrchol. Weithiau mae'n fater o arfer - mae pobl yn teimlo'n gyffyrddus yn cadw at yr hyn maen nhw’n gyfarwydd ag ef. ”

Cyfranogwr grŵp ffocws, Merthyr Tudful

Roedd rhai o’r cyfranogwyr, yn cynnwys myfyrwyr, yn esbonio y dylai addysg ffurfiol gynnwys mwy o bwyslais ar ddeall materion ariannol, gan gynnwys biliau tanwydd.

“Mae darllen a deall biliau yn gallu bod yn ddryslyd. Dydyn nhw ddim bob amser yn hawdd eu defnyddio a gallant amrywio cryn dipyn. Yn ddelfrydol mae'n rhywbeth y dylid bod wedi delio ag ef fel rhan o’r cwricwlwm ysgolion. "

Cyfranogwr grŵp ffocws, Conwy

“Mae ynni’n cael ei ystyried yn fater o flaenoriaeth isel i lawer o’r bobl rydyn ni’n eu cynghori. Fodd bynnag, pryd bynnag rydyn ni’n dod ar draws rhywun sydd â dyled neu broblem budd-dal lles, yn amlach na pheidio, mae problem ynni yno hefyd. "

Cyfranogwr grŵp ffocws, Ynys Môn

Esboniodd y cyfranogwyr a oedd yn fyfyrwyr fod biliau tanwydd yn aml yn eithaf isel ar eu rhestr o flaenoriaethau. Yn aml, bydd biliau tanwydd yn cael eu cynnwys yn eu taliad rhent felly anaml y bydd ganddynt gyfle i herio'r gost neu’r awydd i wneud hynny chwaith.

“Os ydych chi'n rhentu tŷ gan rywun, dydych chi ddim yn teimlo y gallwch chi newid cyflenwr. Byddwn yn synnu os dewch o hyd i fyfyriwr sydd wedi newid tariff.  Does gan y mwyafrif o fyfyrwyr ddim syniad beth fyddai bargen neu dariff 'da'. "

Cyfranogwr grŵp ffocws, Gwynedd

Anabledd

Trafododd rhai o gyfranogwyr y grwpiau ffocws yr heriau unigryw y mae tlodi tanwydd yn eu hachosi i bobl anabl.

“Os oes gennych chi anabledd hirdymor, yn aml mae angen i chi ddefnyddio mwy o drydan oherwydd y gwahanol offer rydych chi'n ei ddefnyddio. Dw i’n ddall, felly os oes angen i mi wneud pethau, mae angen i mi gynnau’r golau - mae hynny’n wir gydol y flwyddyn, nid dim ond pan mae'n dywyll. Yn aml mae angen i mi newid offer er mwyn i mi allu gwneud pethau'n annibynnol, ac mae hynny'n cael effaith wedyn ar filiau.

Er nad ydw i mewn tlodi tanwydd, dim ond llwyddo i gael deupen llinyn ynghyd ydym ni. Un incwm sy’n dod i mewn ac yn cynnal y ddau ohonom. Rydyn ni ychydig yn uwch na'r trothwy felly does gennym ni ddim hawl i gael unrhyw gymorth ychwanegol. "

Cyfranogwr grŵp ffocws, Powys

Materion eraill

§  Cwmnïau ynni llai yn cael eu gorfodi i gau sy'n cael effaith ganlyniadol ar filio. Mae'r nifer yn cynyddu gyda thri i bedwar cwmni ynni wedi mynd i'r wal yn ystod y tair blynedd diwethaf.

§  Dywedodd rhai o’r cyfranogwyr eu bod wedi newid darparwyr ynni ar ôl ymweliad gan werthwyr stepen drws a galwadau diwahoddiad, gyda rhai darparwyr ynni yn waeth nag eraill.

§  Mae rhai wedi cael trafferth deall sut mae gwresogi ffynhonnell aer yn gweithio, ac eraill wedi cael gosod systemau newydd er bod eu heiddo yn anaddas ar gyfer gwres cefndir lefel isel.